Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
24 Chwefror 2021
Amser y
cyfarfod: 12.45
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo. Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig. Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru
(45 munud)
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
3 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg
(45 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
[Gofyn i'r Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig]
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl yn dilyn y llifogydd diweddar sydd wedi effeithio cymunedau ar draws Cymru?
5 Datganiadau 90 eiliad
(5 munud)
6 Dadl: Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
(30 munud)
NDM7478 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau;
b) sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol BSL i rymuso'r gymuned BSL yng Nghymru;
c) ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyd-gynhyrchu a chyhoeddi cynllun BSL cenedlaethol, a sefydlu nodau strategol i wella hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau cymorth a gwella sgiliau BSL ar draws cymdeithas; a
d) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyd-gynhyrchu a chyhoeddi eu cynllun BSL eu hunain i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant BSL, a gwella mynediad at wasanaethau rheng flaen.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Parth perygl nitradau Cymru gyfan
(30 munud)
NDM7599 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r penderfyniad i gyflwyno parth perygl nitradau Cymru gyfan.
2. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno cynigion i fynd i'r afael â llygredd yng Nghymru.
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi uchelgais ffermio Cymru i fod y mwyaf cyfeillgar yn y byd o ran natur a’r hinsawdd ac ymuno â’r undebau ffermio i gydnabod bod un achos o lygredd amaethyddol yn un achos yn ormod.
Yn cydnabod bod ffermio yng Nghymru yn cynnig llawer o’r atebion pwysicaf i argyfwng yr hinsawdd, a bod llawer o ffermwyr Cymru eisoes wedi sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen i’w harferion ffermio.
Yn derbyn bod rheoli allyriadau amaethyddol yn rhan annatod o’r ymdrech i sicrhau allyriadau sero-net yng Nghymru ac ar draws y DU.
Yn cytuno mai’r cam cyntaf i daclo allyriadau amaethyddol yw cynnal y mesurau rheoli da sydd eisoes yn cael eu cynnal gan y rhan fwyaf o ffermwyr.
8 Dadl Plaid Cymru - Cymhwystra prydau ysgol am ddim
(30 munud)
NDM7598 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt.
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern bod plant yn dal i fynd heb fwyd ac y byddwn yn parhau i gynyddu ein hymdrechion i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddileu tlodi a newyn.
2. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma'r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau'r ysgol;
b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy'n hunanynysu neu'n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;
c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;
d) wedi sicrhau mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;
e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;
f) wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cyflym o'r holl opsiynau sydd ar gael o ran adnoddau a pholisi gan gynnwys y trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar ddata'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).
9 Cyfnod pleidleisio
10 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7595 David Melding (Canol De Cymru)
Adolygiad Cumberlege: gwersi ar gyfer cydsyniad ar sail gwybodaeth yn y GIG.
11 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7597 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Pa ddyfodol sydd i'r diwydiant pysgota morol?
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Mawrth 2021